| Man Cychwyn Prif Faes Parcio ym Moel Famau. Mae cyfleusterau toiled yn y maes parcio. Mae angen talu ffi i barcio yma. Cyfeirnod Grid SJ173612
Mae Her y Delyn yn ddigwyddiad blynyddol a gynhelir ar Fryniau Clwyd. Mae beicwyr lleol yn ystyried bod y digwyddiad hwn, a gynhelir ym mis Hydref, yn brawf eithaf o'u hyfforddiant dros yr haf. Mae'r llwybr hwn yn debyg i Her y Delyn, gyda darn ychwanegol rhag ofn i chi feddwl ei fod yn rhy hawdd. Medrwch ddisgwyl bod allan trwy'r dydd ar gyfer hwn a peidiwch â disgwyl i'r daith fod yn hawdd. Os nad ydych yn cymryd y daith hon o ddifrif, medrwch ddisgwyl talu'r pris coesau poenus a dweud y lleiaf! Felly, ewch, mwynhewch!
|