ride the clwyds logo mountain biking facilities *click for homeclick to contact ride the clwyds
*click for picture of clywdian range
Bysus Raciau Beiciau

Mae ardal Bryniau Clwyd bellach yn cael ei gwasanaethu gan 2 fws, sydd wedi eu haddasu yn arbennig i gludo hyd at ddau feic ar y tro. Dewisiwyd y gwasanaeth i ganiatáu cymaint o fynediad i'r Bryniau a'r ardaloedd o gwmpas ag y bo modd. Er bod yr holl lwybrau ar y wefan hon yn gylchol mae llawer o opsiynau ar gyfer reidiau pwynt i bwynt ar y Bryniau, ac mae'r bysus yn darparu dull o ddychwelyd i'r man cychwyn ar ôl gorffen, neu i'r gwrthwyneb. Bydd y bysus gyda raciau beic yn gweithredu'r gwasanaeth B5 rhwng Rhuthun, Llanferres a'r Wyddgrug, gyda rhai gwasanaethau yn cael eu hymestyn i fynd cyn belled â Chaer.


Oherwydd poblogrwydd y gwasanaethau hyn awgrymir eich bod yn cysylltu gyda gweithredydd y bws cyn teithio er mwyn trefnu lle i'ch beic ar un o'r bysus. Cysylltwch gyda GHA ar 01978 753598 i drefnu lle, gan nodi ymhle a phryd yr ydych eisiau ymuno gyda a gadael y llwybr.

Am wybodaeth bellach, medrwch lawrlwytho'r amserlen [Gwasanaeth 76 (275k PDF), GwasanaethB5 (273k PDF), Gwybodaeth Gyffredinol (208k PDF)]. Fel arall, medrwch naill ai ymweld â gwefan Sir Ddinbych  – sydd â manylion holl amserlenni bws yn yr ardal neu ffonio'r Adran Briffyrdd ar 01824 706968.

Bike rack bus for Clwydian Range
Un o'r ddwy fws rac beiciau
*
* click for about the clwyds
* click for ride the clwyds news
* click for mountain biking routes
* click for mountain biking facilities
search this site

Cartref | Cysylltwch â ni | Cwestiynau | Bryniau Clwyd | Newyddion
Y Llwybrau | Cyfleusterau
© Cyngor Sir Ddinbych 2003. Ymwadiad
Ebost: info@ridetheclwyds.com