| Uchafbwyntiau Bryniau Clwyd
Dynodwyd Bryniau Clwyd yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ar 24ain Gorffennaf 1985. Mae hyn yn rhoi cydnabyddiaeth genedlaethol i'r Bryniau fel ardal o dirwedd safon uchel. Mae'n un o 5 AHNE yng Nghymru.
Mae geoleg amrywiol yn golygu bod nifer o dirweddau gwahanol yn yr ardal. Mae gweundir grugog agored y grib yn llywodraethu'r caeau bychain, gwrychog a choedlannau'r llethrau is. Mewn mannau, mae'r garreg galch yn dangos mewn tarenni coediog a dyffrynnoedd afonydd deniadol, gyda'r cyfan yn cyfrannu at brofiad beicio mynydd unigryw ac amrywiol.
 |
 |
Moel Famau a Thwr y Jiwbilî o Lôn Werdd Cilcain
|
|
Mae'r ardal yn gyrchfan tripiau dydd yn draddodiadol, gyda Pharciau Gwledig Loggerheads a Moel Famau yn denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn.
Mae Bryniau Clwyd o ddiddordeb mawr yn archaeolegol hefyd ac mae cyfres o Fryngeiri'r Oes Haearn i'w canfod ar y brig.
O ran cynefin naturiol, mae gweundir grugog a ffridd yr AHNE wedi eu gwarchod fel cynefin sy'n lleihau.
Mae Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa yn rhedeg bron ar hyd y grib gyfan. Mae'r Llwybr yn rhedeg am 177 milltir o Greigiau Sedbury ar Foryd Hafren ger Cas-gwent i Brestatyn yng Ngogledd Cymru.
Mae'r rhan fwyaf o'r AHNE ym meddiant amaethyddol preifat er bod y gweundir uchel mewn meddiant cyhoeddus. Mae'r defnydd tir yn amrywio o bori defaid ar y bryniau i economi cymysg llaeth, gwartheg a thir âr ar ymyl y dyffryn. Mae echdynnu carreg galch, tywod a graean o bwysigrwydd sylweddol yn yr economi gwledig ac mae dwy ran o dair o goedlan yr AHNE yn goedwig fasnachol. Mae llawer o bentrefi carreg deniadol yr AHNE yn ardaloedd cadwraeth.
Rheolir AHNE Bryniau Clwyd gan Wasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych o'i swyddfeydd ym Mharc Gwledig Loggerheads.
|