ride the clwyds logo mountain biking routes in north wales, UK *click for homeclick to contact ride the clwyds
*click for East Pant Du image
Llwybr Aml-ddefnyddwyr Coed Nercwys

Clwydian Range AONBYchwanegiad yn ddiweddar i’r cyfleoedd beicio yn Sir Ddinbych yw Llwybr Aml-ddefnyddwyr Coed Nercwys. Mae wedi ei gynllunio i fod yn hygyrch i gerddwyr, beicwyr a marchogion, ac mae’r daith gylchol 2 filltir hon trwy’r goedwig yn ddelfrydol ar gyfer teuluoedd sydd eisiau rhywle diogel i feicio.

*Mae Coed Nercwys yn gorwedd rhwng pentrefi Eryrys a Nercwys ac mae’n hawddaf ei gyrraedd oddi ar yr A494, ffordd Yr Wyddgrug i Ruthun, yng Ngwernymynydd. Mae lle i barcio am ddim ar gael ger y fynedfa ogleddol i’r goedwig (cyfeirnod grid SJ218 592).

Mae Coed Nercwys yn goedwig gyda gorffennol cyfoethog. O olion  Carnedd yr Oes Efydd, i archaeoleg diwydiannol yn deillio o gloddio am blwm yn Oes Fictoria, hyd at heddiw fel coedwig weithredol, mae Coed Nercwys wastad wedi bod yn lle prysur. Mae’r hanes cyfoethog hwn i’w weld ar hyd y llwybr gyda chymorth byrddau *dehongli, sy’n rhoi gwybodaeth ar bwyntiau o ddiddordeb. Mae’r llwybr llydan yn crwydro o gwmpas y goedwig, yn osgoi dringfeydd serth ac yn rhoi golygfeydd gwych dros Wastadedd Caer a thu hwnt.

Mae’r llwybr hwn yn un gwych i deuluoedd fwynhau beicio’n ddiogel i ffwrdd o ffyrdd prysur, ac ar yr un pryd yn rhoi cyfle i ddysgu am hanes amrywiol y goedwig unigryw hon.
Nercwys route

Llwybr / Enw: Llwybr Aml-ddefnyddwyr Coed Nercwys
Lefel: Hawdd / Dechreuwr
Pellter Cyfan: 4.2Km
Amser reid yn fras: 1awr

*
* click for about the clwyds
* click for ride the clwyds news
* click for mountain biking routes
* click for mountain biking facilities
search this site

Cartref | Cysylltwch â ni | Cwestiynau | Bryniau Clwyd | Newyddion
Y Llwybrau | Cyfleusterau
© Cyngor Sir Ddinbych 2003. Ymwadiad
Ebost: info@ridetheclwyds.com