| Newyddion diweddaraf...
BIKEFAX ARWEINLYFR rhif 2 GOGLEDD DDWYRAIN CYMRU BIKEFAX ARWEINLYFR rhif 2 GOGLEDD DDWYRAIN CYMRU AR GAEL NAWR! Mae ail arweinlyfr beicio mynydd Bikefax newydd gyrraedd ein swyddfa, wedi cyrraedd o’r argraffydd y BORE’ MA’!! Mae ar gael i chi ar-lein RŴAN neu mewn siopau lleol o fewn yr wythnosau nesaf, arweinlyfr Bikefax, rhif 2 - “Llwybrau beic mynydd gorau yng Ngogledd Ddwyrain Cymru” - yn cynnig 24 o deithiau wedi eu casglu ar eich cyfer chi gan feicwyr mynydd profiadol, Sue Savege a Tony Griffiths.
Yn ychwanegol ar fersiwn CD-Rom yr arweinlyfr, gan fod galw mawr amdano gennych chi’r defnyddwyr, mae ffeiliau GPS o’r llwybrau y gellir eu llwytho i lawr fel ffeiliau testun i’w defnyddio ar eich GPS (unrhyw fodel cyfoes) yn ogystal â ffeiliau ar gyfer rhaglen TrackLog fydd o ddefnydd i’r rhai ohonoch sydd am gynllunio eich taith ar fap tebyg i rai arolwg ordnans (OS).
Cyswllt: Samantha Forrest, Swyddog Marchnata, Bikefax Ffôn: 01286 685489 E-bost: marketing@bikefax.com Canolfan Beicio Mynydd Llandegla Ar ôl oedi, mae'n ymddangos bod y ffordd yn glir nawr i'r gwaith ar Ganolfan arfaethedig Beicio Mynydd Llandegla ddechrau o'r diwedd. Rydym yn aros am ddatganiad swyddogol i'r wasg gan y gweithredwyr Tillhill, ond ymddengys y bydd y llwybrau wedi eu gorffen erbyn dechrau'r Hydref eleni. Byddwn yn eich diweddaru cyn gynted ag y cawn fanylion pellach. I weld manylion y ganolfan arfaethedig cliciwch yma. Llwybr Aml-Ddefnyddwyr Nercwys Dros fisoedd y gaeaf mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru a Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych wedi bod yn brysur yn datblygu llwybr newydd Aml-Ddefnyddiwr yng Nghoed Nercwys. Mae cyfnod un y project nawr wedi ei gwblhau ac mae rhyw 2 filltir o lwybr wedi ei ddatblygu i bobl ar gefn beic, ceffyl ac ar droed. Mae'r llwybr yn ddelfrydol ar gyfer beicwyr teuluol a chyda byrddau dehongli a mynegbyst i'w gosod yn y man, bydd yn llwybr cylchol gwych, rhydd rhag draffig, i bawb. Chwaer i www.beiciobryniauclwyd.com 15th September 2005
Yn dilyn llwyddiant anhygoel www.beiciobryniauclwyd.com mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych – yn gweithio mewn partneriaeth gyda Chomisiwn Coedwigaeth Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Gwasanaeth Cefn Gwlad Conwy wrthi'n datblygu gwefan newydd sbon yn chwaer iddi – www.beiciohiraethog.com
Mae'r safle i fynd yn fyw yn y Gwanwyn, 2005.
Bydd www.beiciohiraethog.com, unwaith eto, yn cynnwys yr holl wybodaeth rydych ei hangen i ddod i fwynhau hyfrydwch yr ardal hon ar feic mynydd.
Mae ardal Hiraethog yn gorwedd i orllewin Bryniau Clwyd, ar ochr arall Dyffryn Clwyd. Mae'r math o lwybrau beicio y medrwch eu disgwyl yn Hiraethog yn wahanol iawn i Fryniau Clwyd, ac yn cynnwys Coedwig fawr Clocaenog, cronfeydd Llyn Brenig ac Alwen a gwylltineb gweundiroedd Dinbych.
Gwyliwch y gofod hwn am fwy o newyddion yn y dyfodol agos. Mae angen i ni barhau i wella ein gwefan. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os hoffech gael cynnwys rhywbeth, yna cysylltwch â ni. Rydym eisiau gwneud beiciobryniauclwyd.com yn un o'r adnoddau beicio mynydd mwyaf gwerthfawr y we, a gobeithio y gwelwn chi ar y Bryniau yn fuan iawn.
|