|
|

| Enw'r Reid: |
 |
Dros y Top |
| Lefel: |
|
Cymedrol / Canolraddol |
| Map Gofynnol: |
|
OS Explorer 265 |
| Pellter Cyfan: |
|
34Km (yn fras) |
| Amser Reid yn Fras: |
|
3.5 awr |
| Cyfanswm Uchder: |
|
545m |
| Man Cychwyn Maes Parcio gyferbyn â'r ganolfan grefftau yn Rhuthun oddi ar y gylchfan lle mae'r A494 a'r A525 yn cyfarfod. Cyfeirnod Grid : SJ128586
Mae'r reid ganolraddol wych hon yn mynd â chi i'r pwynt uchaf a ganiateir i feiciau mynydd ar Fryniau Clwyd, sef rhyw 450m. Nid oes angen dweud bod y golygfeydd yn wych, a rhai o'r dringfeydd hefyd. O lwybrau tawel coedwig Clwyd i ddisgynfeydd gwych ym Mharc Gwledig Moel Famau, mae'r llwybr hwn yn un penigamp. Llwybr gyda 'chydig bach o bopeth.
|
|
|