 |
| Gwybodaeth ar Fryniau Clwyd
Mae Bryniau Clwyd yn gadwyn 35 km o fryniau. Mae'n gwahanu Dyffryn Clwyd yn y gorllewin a Moryd Dyfrdwy yn y dwyrain. Mae'n rhedeg o Brestatyn i Landegla, gyda Moel Famau yn bwynt uchaf ar 554 medr. Mae Bryniau Clwyd i'w gweld o Lannau Merswy a Sir Gaer, ac maent yn wrthygyferbyniad mawr i'r tir amaethyddol sydd o'u cwmpas. Mae trefi marchnad hanesyddol Yr Wyddgrug, Rhuthun a Dinbych yn nodi'r prif fynedfeydd i'r Bryniau.
 |
| Golygfa o Ddyffryn Clwyd i Borth Clwyd |
|
|
|