ride the clwyds logo easy mountain biking rides *click for homeclick to contact ride the clwyds
*click for mountain biking image
Reidiau hawdd...

Llwybr / Enw: Dolen Coed Moel Famau
Lefel: Hawdd / Dechreuwr
Pellter Cyfan: 12.2km
Amser reid yn fras: 2 awr

*
Golygfa 3D a hedfan trwodd
Mae'r llwybr byr hwn yn ymlwybro trwy goedwig Moel Famau, gan ddringo'n raddol i bwynt uchel ar ymyl y goedwig, gyda golygfeydd hynod dros Lannau Merswy a thu hwnt. Yna, ar ôl disgynfa wych rydych yn mynd yn ôl i'r goedwig i feicio'n ôl i'r man cychwyn ar lethrau isaf Bryniau Clwyd.


Llwybr / Enw: Cilcain Byr
Lefel: Hawdd / Dechreuwr
Pellter Cyfan: 8.5km
Amser reid yn fras: 1 awr

*
Golygfa 3D a hedfan trwodd
Mae'r reid hon o Gilcain i fyny i grib Bryniau Clwyd yn caniatáu i'r beiciwr llai profiadol weld y golygfeydd gwych dros Ddyffryn Clwyd i gyfeiriad Eryri, ar ôl dringfa raddol o'r pentref ar hyd hen ffordd y sir, cyn beicio lawr disgynfa trac sengl heriol yn ôl i gyfeiriad y pentref am egwyl braf yn nhafarn y pentref.

Gweler hefyd ein tudalen ar Y Ganolfan Ragoriaeth Beicio Mynydd  sydd i agor yn Llandegla.

Map & gwybodaeth ar y llwybrclick for cilcain short

Llwybr / Enw: O Gwmpas y Llyn
Lefel: Hawdd / Dechreuwr
Pellter Cyfan: 15.2Km
Amser reid yn fras: 1 awr

*
Golygfa 3 D a hedfan trwodd
Brawd bach llwybr 'I Fyny at y Llyn', mae hon yn caniatáu i chi fynd o amgylch Llyn Brenig, cronfa ddynol fawr. Gyda'r man cychwyn yn y ganolfan ymwelwyr, mae paneidiau te a chacennau wrth llaw. Mae'r llwybr dros yr argae ac o amgylch y lan yn rhoi teimlad i chi eich bod yn y gwylltir, heb orfod dioddef dringfeydd hirion a thir anodd i gyrraedd yno. Yn sicr, reid i'r teulu cyfan, gyda dim ond un dringfa serth.

Gweler hefyd ein tudalen ar Y Ganolfan Ragoriaeth Beicio Mynydd  sydd i agor yn Llandegla.

Llwybr / Enw: Ar hyd glan y môr
Lefel: Hawdd / Dechreuwr
Pellter Cyfan: 22Km (yn fras)
Amser reid yn fras: 2.5 awr

*
Golygfa 3 D a hedfan trwodd
Mae'r daith gylchol lled-drefol hon yn mynd o Bwll Cae Brics yn Y Rhyl i lan y môr. Yna, mae'n dilyn y llwybr beicio arfordirol i Brestatyn cyn troi'n fewndirol ar lwybr beicio Llwybr Prestatyn-Dyserth. Er bod y rhan fwyaf o'r llwybr yn defnyddio llwybrau beicio mae rhai mannau sy'n gofyn am reidio ar y ffordd, a all fod yn brysur ar adegau, a rhaid cymryd gofal.

Map & gwybodaeth ar y llwybrclick for around the lake

Llwybr / Enw: Llwybr Aml-ddefnyddwyr Coed Nercwys
Lefel: Hawdd / Dechreuwr
Pellter Cyfan: 4.2Km
Amser reid yn fras: 1awr

Ychwanegiad yn ddiweddar i’r cyfleoedd beicio yn Sir Ddinbych yw Llwybr Aml-ddefnyddwyr Coed Nercwys. Mae wedi ei gynllunio i fod yn hygyrch i gerddwyr, beicwyr a marchogion, ac mae’r daith gylchol 2 filltir hon trwy’r goedwig yn ddelfrydol ar gyfer teuluoedd sydd eisiau rhywle diogel i feicio.
*
* click for about the clwyds
* click for ride the clwyds news
* click for mountain biking routes
* click for mountain biking facilities
search this site

Cartref | Cysylltwch â ni | Cwestiynau | Bryniau Clwyd | Newyddion
Y Llwybrau | Cyfleusterau
© Cyngor Sir Ddinbych 2003. Ymwadiad
Ebost: info@ridetheclwyds.com