ride the clwyds logo Intermediate mountain biking routes *click for homeclick to contact ride the clwyds
*click for mountain biking image
Reidiau Cymedrol...

Llwybr / Enw: Dros y Top
Lefel: Cymedrol / Canolraddol
Pellter Cyfan: 34Km (yn fras)
Amser reid yn fras: 3.5 awr

*
Golygfa 3D a hedfan trwodd
Mae'r reid ganolraddol wych hon yn mynd â chi i'r pwynt uchaf a ganiateir i feiciau mynydd ar Fryniau Clwyd, sef rhyw 450m. Nid oes angen dweud bod y golygfeydd yn wych, a rhai o'r dringfeydd hefyd. O lwybrau tawel coedwig Clwyd i ddisgynfeydd gwych ym Mharc Gwledig Moel Famau, mae'r llwybr hwn yn un penigamp. Llwybr gyda 'chydig bach o bopeth.
Llwybr / Enw: Arthur 2 Waith
Lefel: Cymedrol / Canolraddol
Pellter Cyfan: 31Km (yn fras)
Amser reid yn fras: 3 awr

*
Golygfeydd 3d
Mae'r reid hon o Gilcain yn cynnig golygfeydd gwych. Mae'r llwybr yn cynnwys dringo graddol a disgynfeydd diddorol, ond gwnewch yn siwr eich bod yn cymryd amser i fwynhau'r golygfeydd godidog o Eryri a Glannau Merswy. Mae'r llwybr hwn hefyd yn caniatáu i chi fynd o gwmpas bryngaer yr oes haearn Moel Arthur nid unwaith, ond ddwywaith!
Llwybr / Enw: Taith 4 Pentref
Lefel: Cymedrol / Canolraddol
Pellter Cyfan: 29.0Km
Amser reid yn fras: 3 awr

*
Golygfeydd 3d
Mae'r llwybr gwych hwn yn mynd â chi ar daith o amgylch 4 o'r pentrefi hyfrydaf yn yr ardal, Graianrhyd, Eryrys, Maeshafn a Nercwys. Sy'n rhoi digon o gyfle i stopio am fwyd yn y tafarndai neu'r siopau pentref. Mae'r llwybr yn ymgorffori disgynfeydd trac sengl gwych, lonydd gleision a llwybrau trwy'r goedwig. Gellir gadael allan y llwybr o gwmpas Graianrhyd er mwyn osgoi un o'r disgynfeydd mwyaf technegol, gan ei wneud yn addas i feicwyr llai profiadol. Mae hwn yn llwybr gwych i rai sydd eisiau cymryd eu hamser a mwynhau'r golygfeydd.
Llwybr / Enw: I Fyny At y Llyn
Lefel: Cymedrol / Canolraddol
Pellter Cyfan: 42km
Amser reid yn fras: 3 awr

*
Golygfeydd 3d
Er yn eithaf hir, nid yw'r llwybr hwn yn rhy dechnegol, sy'n ei wneud yn ddelfrydol ar gyfer beicwyr sy'n ffit ond sydd well ganddynt lwybrau llai technegol. Mae'r llwybr yn mynd â chi trwy Goedwig Clocaenog, sy'n enwog am gynnal rowndiau Rali'r RAC, cartref Ceiliog Du'r Mynydd prin, ac un o'r ychydig fannau lle gellir gweld y Wiwer Goch. Mae Llyn Brenig yn lyn mawr a luniwyd gan ddyn ac mae'r llwybr hwn yn mynd â chi yr holl ffordd o gwmpas y lan, gyda chyfle i gael byrbryd yn y ganolfan ymwelwyr, cyn dod â chi dros fur yr argae ei hun ar gyfer y daith yn ôl trwy'r goedwig. Reid wych ar gyfer y diwrnod, ac un na ddylid ei rhuthro.

Gweler hefyd ein tudalen ar y Ganolfan  Beicio Mynydd sydd i agor yn Llandegla.

Hefyd y "Killer Loop" gan yr MBR.
Llwybr / Enw: MBR’s Killer Loop
Lefel: Cymedrol / Uwch
Pellter Cyfan: 37km
Amser reid yn fras: 4 awr

*
Golygfeydd 3d
Cyhoeddwyd yng nghyfres Killer Loop cylchgrawn MBR, mae hwn yn gwbl addas i'r categori. Un ar gyfer beicwyr brwdfrydig nad ydynt yn ofni poen, os yw'r boen werth chweil. Y wobr am y boen – llwybr gwych sy'n cynnwys digon o ddringfeydd  a disgynfeydd gyda golygfeydd gwych. Meddai MBR am y llwybr “ We named the series Killer Loops for a reason and this circuit lived up to its name on all accounts.” Felly, sut medrwch wrthod her fel yna?

Gweler hefyd ein tudalen ar y Ganolfan  Beicio Mynydd sydd i agor yn Llandegla.

*
* click for about the clwyds
* click for ride the clwyds news
* click for mountain biking routes
* click for mountain biking facilities
search this site

Cartref | Cysylltwch â ni | Cwestiynau | Bryniau Clwyd | Newyddion
Y Llwybrau | Cyfleusterau
© Cyngor Sir Ddinbych 2003. Ymwadiad
Ebost: info@ridetheclwyds.com