 |
Reidiau Anodd...
| Llwybr/Enw: |
 |
Bron Y Delyn |
 |
| Lefel: |
|
Anodd / Uwch |
|
| Pellter Cyfan: |
|
78.8Km (yn fras) |
|
| Amser reid yn fras: |
|
8 awr |
|
 |
| Golygfa 3D a hedfan trwodd |
Mae Her y Delyn yn ddigwyddiad blynyddol a gynhelir ar Fryniau Clwyd. Mae beicwyr lleol yn ystyried bod y digwyddiad hwn, a gynhelir ym mis Hydref, yn brawf eithaf o'u hyfforddiant dros yr haf. Mae'r llwybr hwn yn debyg i Her y Delyn, gyda darn ychwanegol rhag ofn i chi feddwl ei fod yn rhy hawdd. Medrwch ddisgwyl bod allan trwy'r dydd ar gyfer hwn a peidiwch â disgwyl i'r daith fod yn hawdd. Os nad ydych yn cymryd y daith hon o ddifrif, medrwch ddisgwyl talu'r pris coesaupoenus a dweud y lleiaf! Felly, ewch, mwynhewch!
| Llwybr/Enw: |
 |
Mynd yn Ôl |
 |
| Lefel: |
|
Anodd / Canolraddol |
|
| Pellter Cyfan: |
|
37km (yn fras) |
|
| Amser reid yn fras: |
|
5 awr |
|
 |
| Golygfeydd 3d |
O fynd yr un ffordd â'r cloc, rydych yn teimlo eich bod yn y gwylltir ar y reid hon. Gan gychwyn a gorffen yn nhref marchnad hanesyddol Rhuthun, mae'r llwybr yn eich tywys allan ar y bryniau gyda dringfa serth i fyny a thros y Bryniau. Yna mae'r llwybr yn arwain dros ochr ddwreiniol y Bryniau a thrwy Goedwig Clwyd cyn y ddisgynfa braf yn ôl i Ddyffryn Clwyd. Reid sy'n gofyn am lefel o ffitrwydd gyda gwobrau sydd werth yr ymdrech.
| Llwybr/Enw: |
 |
5 Dolen |
 |
| Lefel: |
|
Anodd / Uwch |
|
| Pellter Cyfan: |
|
53.5km (yn fras) |
|
| Amser reid yn fras: |
|
6 awr |
|
 |
| Golygfa 3D a hedfan trwodd |
Yn cynnwys 5 dolen sy'n cysylltu, gall y llwybr hwn brofi'r beiciwr mwyaf profiadol. Serch hynny, mae'r dolennau yn golygu y gall beiciwr gydag ychydig llai o brofiad ddewis llwybr byrrach os ydynt eisiau. Mae rhywbeth ychydig yn wahanol ym mhob dolen, boed yn ddringfa welltog hir neu ddisgynfa trac sengl cyflym un peth fydd yn eich meddwl trwy'r amser yw'r teimlad o antur!
|
|
|