ride the clwyds logo llandegla mountain bike centre *click for homeclick to contact ride the clwyds
*click for mountain biking image
Canolfan Beicio Mynydd Llandegla

Coed Llandegla yw'r ychwanegiad diweddaraf i fap beicio mynydd Cymru.

UPM, One Planet Adventure, Llandegla Forest

Mae Tilhill, perchnogion Coed Llandegla, wedi datblygu'r safle yn llwyddiannus yn gyfleuster beicio mynydd cynhwysfawr, diolch i gyllid gan y Comisiwn Coedwigaeth, Bwrdd Croeso Cymru a Chadwyn Clwyd.

Lleolir yng Ngogledd-ddwyrain Cymru, tafliad carreg o brif drefi Caer, Lerpwl, Manceinion a Chanolbarth Lloegr, mae'r goedwig mewn lleoliad delfrydol gyda thrydedd ran poblogaeth y DG yn byw o fewn taith car awr a hanner.

Llandegla Mountain Biking Centre location map

* *

Adeiladwyd canolfan ymwelwyr bwrpasol, ar ffurf caban pren, yn cynnwys caffi helaeth, siop, llogi beiciau a chyfleusterau dosbarth. O'r fan hon, gall grwpiau teuluol, ynghyd â beicwyr mynydd 'a ddifrif' fynd i fwynhau'r goedwig, gan ddewis eu llwybr o 30km o lwybrau newydd eu creu ac wedi eu graddio. Mae'r llwybr Glas (teulu) yn addas i bawb; anelir y llwybr Gwyrdd (dechreuwyr) at y rhai sydd eisiau blasu byd beicio mynydd, yn ddiogel yn y wybodaeth nad ydynt yn mynd i ddod ar draws dringfeydd anodd a disgyniadau brawychus; ac mae'r llwybr Coch (canolraddol) yn llwybr lle mae'r flaenoriaeth - yn wahanol i lawer o ganolfannau eraill - ar hwyl i'r beiciwr mwy profiadol, gan roddi digon o gyfle i wenu'n llydan wrth ymgeisio'r 'bermau', 'top bwrdd' ac adrannau reidio arddull Glan Gogleddol. Mae cyfleusterau golchi beiciau hefyd ar gael, sy'n sicrhau bod y beic yn mynd adref yr un mor lân â phan gyrhaeddodd.

Mae'r siop a'r gweithdy'n stocio ystod eang o frandiau ansawdd uchel megis Kona, Royal Racing, RaceFace a Howies. Mae fflyd o feiciau mynydd Kona a Tag Alongs hefyd ar gael i'w llogi o'r siop.

Mae'r dosbarth yn galluogi cynnal nifer o gyrsiau - o addysg coedwigaeth i hyfforddiant a chynnal a chadw beiciau mynydd. Bydd y dosbarth ar gael i bob math o gr_p o ysgolion i ddyddiau adeilad timau corfforaethol.

*
Rasio yn Llandegla

Oneplanet Adventure, cwmni newydd gyda dau feiciwr mynydd profiadol wrth yr helm, Ian Owen a Jim Gaffney, sy'n rhedeg y ganolfan. Mae Ian wedi bod yn beicio mynydd am fwy na 15 mlynedd, ac uchafbwynt ei brofiadau oedd taith solo dros fynyddoedd yr Himalaya rhyw ddwy flynedd yn ôl. Mae Jim Gaffney yn adnabyddus yn lleol fel y g_r y tu ôl i'r gwefannau llwyddiannus iawn www.beiciobryniauclwyd.com a www.beiciohiraethog.com, a sefydlog yn ystod ei gyfnod yn gweithio i Wasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych fel Swyddog Datblygu Beicio Mynydd.

Bydd y wefan www.oneplanetadventure.co.uk yn mynd yn fyw yn fuan, ond medrwch gysylltu gyda Jim ac Ian yn info@oneplanetadventure.co.uk, neu ffonio'r Ganolfan yn uniongyrchol ar 01978 751656.

*
* click for about the clwyds
* click for ride the clwyds news
* click for mountain biking routes
* click for mountain biking facilities
search this site

Cartref | Cysylltwch â ni | Cwestiynau | Bryniau Clwyd | Newyddion
Y Llwybrau | Cyfleusterau
© Cyngor Sir Ddinbych 2003. Ymwadiad
Ebost: info@ridetheclwyds.com