ride the clwyds logo tourist attractions in the clwydian range *click for homeclick to contact ride the clwyds
*click for picture of north wales
Atyniadau i dwristiaid

Nid beicio mynydd yn unig yw Bryniau Clwyd! Mae nifer fawr o atyniadau twristiaid lleol ar gyfer pob blas. Mae'r ardal yn llawn hanes, ac mae ymweliadau gyda mannau megis Carchar Rhuthun neu Gastell Dinas Brân yn rhoi cipolwg wefreiddiol i gyfnod a aeth heibio, tra bo trefi marchnad hanesyddol Rhuthun, Dinbych a chartref yr Eisteddfod Ryngwladol enwog, Llangollen, oll yn rhoi stamp unigryw ar yr ardal.

*
Castell Rhuddlan Castle – un o lawer!

Pam nad ymwelwch â rhai o'r rhain tra yn yr ardal...

Mae ein Canolfannau Croeso ar agor gydol y flwyddyn ac yn darparu gwasanaeth trefnu llety llawn, ynghyd â gwybodaeth arbenigol a chymorth.

Canolfan Groeso Llangollen

Neuadd y Dref,
Castle Street,
LLANGOLLEN,
Sir Ddinbych.
LL20 5PD
D.G.
O'r tu allan i'r DG, ffoniwch: +44 1978 860828
Yn y DG: 01978 860828
Ebost: llangollen@nwtic.com

Canolfan Groeso Rhuthun

Canolfan Grefftau Rhuthun,
Park Road,
RHUTHUN,
Sir Ddinbych.
LL15 1BB
D.G.
O'r tu allan i'r DG ffoniwch: +44 1824 703992
Yn y DG: 01824 703992
Ebost: ruthin@nwtic.com

Canolfan Groeso Y Rhyl

Y Pentref,
Rhodfa'r Gorllewin,
Y RHYL
Sir Ddinbych.
LL18 1HZ
D.G.
O'r tu allan i'r DG ffoniwch: +44 1745 355068
Yn y DG: 01745 355068
Ebost: rhyl.tic@denbighshire.go.uk

Canolfan Groeso`r Wyddgrug

Llyfrgell, Amgueddfa ac Oriel,
Earl Road,
YR WYDDGRUG,
Sir y Fflint.
CH7 1AP
D.G.
O'r tu allan i'r DG ffoniwch: +44 1352 759331
Yn y DG: 01352 759331
Ebost: mold@nwtic.com

Canolfan Groeso Wrecsam

Stryt y Lampint,
WRECSAM.
LL11 1WN
D.G.
O'r tu allan i'r DG ffoniwch: +44 1978 292015
Yn y DG: 01978 292015
Ebost: tic@wrexham.gov.uk

Parc Gwledig Loggerheads

Mae Parc Gwledig Loggerheads yn Barc Gwledig mewn dyffryn carreg galch yn Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd. Mae'r Parc yn llawn llwybrau coediog braf a llwybrau ar hyd Afon Alun. Mae teithiau sy'n addas i'r teulu, mannau sy'n addas ar gyfer picnic, digwyddiadau i'r teulu, caffi a thoiledau. Am wybodaeth ar beth i'w wneud yng nghefn gwlad Sir Ddinbych, ewch i'r Ganolfan Cefn Gwlad.

Ffôn: 01352 810614

Parc Gwledig Loggerheads,
Loggerheads,
Yr Wyddgrug,
Sir Ddinbych,
CH5 5LH
Gwefan - www.loggerheads.biz/thepark.htm

Parc Gwledig Moel Famau

Mae Parc Gwledig Moel Famau yn fwy na 2000 erw o dirwedd ucheldir pwysig ac yn un o'r parciau gwledig mwyaf yng Nghymru. Mae'n cynnwys gweundir grugog llwigar a phorfeydd glaswelltog ar y llethrau is. Nodwedd ganolog y parc yw saith milltir o Lwybr Cenedlaethol Clawdd Offa sy'n rhedeg ar hyd y grib. Mae'n cymryd rhyw 40 munud i gerdded i Dwr y Jiwbilî ar hyd Llwybr Clawdd Offa. Mae'r Gwasanaeth Cefn Gwlad wedi cyhoeddi taflenni teithiau tywys ar gyfer yr ardal. Mae'r rhain ar gael yn y Ganolfan Cefn Gwlad ym Mharc Gwledig Loggerheads.

Gwefan - www.borderlands.co.uk/see/moel.htm

Carchar Rhuthun

Adeiladwyd ym 1775 fel carchar enghreifftiol o'r cyfnod i wasanaethu hen Sir Ddinbych.
Fe'i dyluniwyd gan J Turner o Gaer. Adeiladwyd y bloc Fictoraidd mawr yn y cefn ym 1866 yn seiliedig ar fodel o Garchar Pentonville yn Llundain ac mae'n edrych mwy fel carchar nodweddiadol.
Dienyddiwyd y person olaf yma ym 1903 a bu i'r lle gau fel carchar ym 1916. Yn ystod yr Ail Ryfel Bwyd roedd yn ffatri arfau arwyddocaol, ac yn ddiweddar mae wedi ei ail-ddatblygu fel atyniad i ymwelwyr a chartref i Archifau'r Sir, am gost o fwy na £1 miliwn.

Carchar Rhuthun
46 Stryd Clwyd
Rhuthun
Sir Ddinbych
LL15 1HP
Ffôn: 01824 708250
Ffacs: 01824 708258
Gwefan - www.ruthingaol.co.uk

Plas Newydd

Ar droad y ddeunawfed ganrif roedd Llangollen yn enwog am fod yn gartref i Ferched Llangollen. Roedd stori ramantus eu fföedigaeth o'u teuluoedd yn Iwerddon, eu taith i Gymru a sefydlu eu cartref ym Mhlas Newydd yn un â aeth a dychymyg cymdeithas cyfnod y Rhaglywiaeth.

Gellir ymweld â'r ty lle roeddent yn byw rhwng y Pasg a mis Hydref bob dydd rhwng 10am - 5pm

Plas Newydd, Hill Street,
Llangollen
Sir Ddinbych,
LL20 8AW
Ffôn: 01978 861314
Gwefan - www.borderlands.co.uk/see/newydd.htm

Castell Rhuddlan

Castell Rhuddlan oedd yr olaf a'r mwyaf grymus o'r cestyll dilynol sydd wedi gwarchod croesfan hollbwysig Afon Clwyd. Cychwynnwyd gan Edward 1 ym mis Medi 1277, ar ôl iddo dderbyn yma ildiad Tywysog Llywelyn ap Gruffudd, gan ei leihau yn ddeiliad yn rheoli teyrnas lawer lai.

Mae arwyddion o ganol tref Rhuddlan, ac mae'n hawdd ymweld â'r castell efo'r car. Ar agor bob dydd o fis Mai - Medi 10am - 5pm gyda thâl mynediad, ac yn rhad ac am ddim weddill y flwyddyn.

Gwefan - www.borderlands.co.uk/see/rhuddlan.htm

Castell Dinas Bran

Mae Dinas Brân yn un o'r cestyll gyda lleoliad sydd ymhlith y mwyaf gwych, ar ben bryn sydd 750 troedfedd uwchben Dyffryn Llangollen. Yma adeiladodd Tywysog Powys Fadog gastell ychydig cyn 1270, wedi ei hamddiffyn i'r gogledd gan ddisgynfeydd serth a chyda rhagfuriau o fryngaer yr Oes Haearn.

Gellir ond cyrraedd Dinas Brân ar droed ac ar ôl dringfa serth. Mae'r llwybr symlaf yn arwain o Langollen, ar hyd llwybr gyda mynegbyst yn cychwyn ym mhen gogleddol pon y gamlas.

Gwefan - http://www.borderlands.co.uk/see/dinas.htm

Cadw

Am wybodaeth bellach ar adeiladau treftadaeth yn ardal Bryniau Clwyd, cenhadaeth Cadw yw amddiffyn, cadw a hybu gwerthfawrogiad o dreftadaeth adeiledig Cymru.

Gwefan - www.cadw.wales.gov.uk

Abseil uk

Dyma gyffro heb ei ail - abseilio i Devil's Gorge 120 troedfedd. Bydd eich hyfforddwr yn eich cyflwyno i'r offer a rhoi darlith fer i chi, ac yna byddwch yn abseilio i lawr y llethr 75° - Y Sleid. Mae gennych opsiwn nawr. Medrwch ail-adrodd Y Sleid neu fynd yr holl ffordd ac abseilio'r trosgrog 120 troedfedd. Dyma gyffro go iawn. Crogi'n rhydd (dim cyffyrddiad corfforol gyda'r graig!!).

Rydym yn croesawu grwpiau megis partrion datblygiad personol corfforaethol. Mae disgownt ar gael i bartion o fwy na 10 - ffoniwch am fanylion. Medrwn gynnwys plant yn dibynnu ar faint corfforol, nid oedran, ond RHAID  i oedolyn sy'n talu fod yn bresennol.

The Outdoor Shop
Parc Gwledig Loggerheads
Ffordd Rhuthun
Yr Wyddgrug
Sir y Fflint
CH7 5LH
DG
(01352) 810458
ebost: info@abseiluk.com
Gwefan  - www.abseiluk.com

Rhyl Seaquarium

Ar y promenâd yn Y Rhyl, Gogledd Cymru.
Crwydro o gwmpas twnnel tanddwr - y cyntaf yng Nghymru - a dod yn agos iawn at y creaduriaid anhygoel hyn, heb wlychu!

Rydych yn crwydro i lawr o'r llynnoedd dwr ffres yn y mynyddoedd, i lawr i'r traeth ac allan i'r tonnau. Yna medrwch blymio i lawr i'r ysgafell gyfandirol a'i dilyn wrth iddi fynd yn ddyfnach a dyfnach, nes mae'n syrthio i ffwrdd, i lawr i'r dyfnderoedd. Ar y ffordd byddwch yn gweld cannoedd o wahanol anifeiliaid, gan gynnwys salamandrau nad ydynt byth yn prifio, anifeiliaid gyda llawer o goesau ond dim  esgyrn a llysywen farus sy'n cuddio fel sebra.

Gydag areithiau rheolaidd ac arddangosfeydd bwydo, mae rhywbeth i bawb yma.

Mae'r Ganolfan yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn / gwthio ac mae dewis gwych o fyrbrydau a phrydau bwyd yn y bwyty, a digon o swfenîrs yn y siop. Hefyd mae man chwarae antur a phatio awyr agored.

Ar agor bob dydd o 10am (ffoniwch am oriau agor y Gaeaf.)

Seaquarium Rhyl
Rhodfa'r Dwyrain
Y Rhyl
Sir Ddinbych
LL18 3AF
Ffôn: 01745 344660
ebost: rhyl@seaquarium.co.uk
Gwefan - www.seaquarium.co.uk

Rheilffordd Llangollen

Mae Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llangollen wedi ail-agor darn o heb lwybr Rhiwabon i Abermaw yng Ngogledd Cymru a gaewyd yn y 1960au. Mae'r trenau treftadaeth nawr yn rhedeg ar benwythnosau y rhan fwyaf o'r flwyddyn a thrwy gydol yr wythnos o Fehefin i Hydref. Yn ystod yr haf, mae'r rhan fwyaf yn cael eu gyrru â stêm, ar adegau eraill efallai defnyddir locomotif neu geir rheilffordd.

Rhoddodd y rheilffordd y gorau i gludo teithwyr ym 1965, a digwyddodd yr un peth i nwyddau ym 1968. Symudwyd y trac a'r signalau y mis canlynol ac am saith mlynedd gadawyd yr adeiladau a gwely'r trac i drugaredd natur.

Grwp o wirfoddolwyr brwdfrydig a ail-gychwynnodd pethau gyda diwrnod agored ym Medi 1975, a 60 troedfedd o drac. Ers hynny mae pethau wedi tyfu a thyfu. Mae ymdrechion y gwirfoddolwyr wedi gweld y trac yn ymestyn rhyw 7_ milltir trwy Ddyfryn Dyfrdwy trwy dirwedd godidog, gyda golygfeydd i lawr dros y dyffryn na ellir eu gweld o'r A5 uwchben.

Rheilffordd Llangollen
Yr Orsaf
Abbey Road
Llangollen
Sir Ddinbych
LL20 8SN
DG
01978 860951
ebost: office@llangollen-railway.co.uk
Gwefan - www.llangollen-railway.co.uk

Canolfan Arddangos Llangollen

2 Atyniad Gwych i'r Teulu dan 1 To!
Diwrnod Delfrydol i "Blant" o bob Oedran!
Boed ar drip diwrnod i Ogledd Cymru, neu'n frwdfrydig am Reilffyrdd Model, rydym yn siwr y byddwch yn mwynhau'r hyn sydd ar gael yma!

Model Railway World
Mae pawb wedi chwarae gyda set drenau ar ryw adeg - cyfle i ail-fyw hynny yn ein Harddangosfa wych - sydd wedi ennill gwobrau!
Amgueddfa Llangollen
Taith o'r Presennol i Langollen y Gorffennol yn ar atyniad newydd hwn ar gyfer 2002!
Mae Doctor Who Experience y BBC a Dapol Model Railway World ar agor 7 diwrnod yr wythnos, trwy gydol y flwyddyn ar wahân i Ddiwrnod Nadolig/Gwyl San Steffan a Dydd Calan. Mae'r ffatri ar agor ar rai penwythnosau yn unig - ffoniwch 01978 860584. Mae Amgueddfa Hanes Llangollen yn cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr ac ar agor ar dyddiau yn unig - holwch pryd.

Gwefan - www.dapol.co.uk

JJ CANOEING

Amrywiaeth o weithgareddau yn cynnwys rafftio, canwa, kayakio, dringo, abseilio, saethu laser, saethyddiaeth, cerdded ceunant a beiciau cwad. Ar lannau Afon Dyfrdwy i'r gorllewin o dref Llangollen. Jim Jayes sydd berchen ar ac sy'n rhedeg y ganolfan - cyn bencampwr y byd a hyfforddwr Olympaidd, felly medrwch fod yn sicr y byddwn yn medru diwallu eich anghenion, beth bynnag eich lefel gallu. Cyflwyniad rhagorol yw rafftio ar yr afon yn un o'n cychod chwyth, ond mae gwersi ar gael hefyd mewn canwa ac abseilio. Offer ar gael ar gyfer pobl broffesiynol a siwtiau gwlyb yn £3 fesul sesiwn. Mae llety dros nos a lle i wersylla hefyd ar gael.

Ffôn: 01978 860763
Ffacs: 01978 860763
Ebost: enquiries@jjraftcanoe.com
Gwefan - www.jjraftcanoe.com

GYG Karting

Trac awyr agored 1600 medr - cartiau oai i blant 9 oed a throsodd. Cartiau proffesiynol ar gyfer rhai hyn. System amseru gyfrifiadurol. Digon o le i barcio. Byrbrydau. Toiledau. Trefniadau corfforaethol/grwpiau. 'Super Grand Prix'. 'Grand Prix'. Dycnwch. Cyrraedd a Gyrru, a phrofi ar gyfer holl berchnogion-gyrwyr.

Yng Ngogledd Cymru, 10 milltir o Gorwen a Betws y Coed ar yr A5.

GYG Karting,
Parc Glan-y-Gors,
Cerrigydrudion,
Corwen
LL21 0RU
Ffôn: 01490 420770
Ffacs: 01490 420702
Gwefan - http://www.gygkarting.co.uk

Beacons Climbing Centre

Canolfan ddringo dan do mwyaf poblogaidd Gogledd Cymru 10 munud yn y car o Lanberis. Cannoedd o raffau sy'n cael eu newid yn rheolaidd, dringfeydd gwych a phroblemau creigiog.
Dros 100 medr sgwâr o ddringo hyd at uchder o 12m
Mannau pwrpasol i grwpiau a llwyfannau abseilio
Hyfforddiant dan do ac awyr agored
Caffi a siop
Ar agor 11am i 10pm Llun - Gwe / 10am i 10pm Sad - Sul

Beacons Climbing Centre,
Ceunant,
Caernarfon,
Gwynedd,
LL55 4SA, UK
Ffôn: +44(0)1286 650045
Ffacs: 0870 0117718
Gwefan - www.beaconclimbing.com

Ropeworks

Siglo o'r trapîs, cerdded ar y rhaff ac abseilio i lawr muriau uchel - dim ond rhai o'r heriau y cewch eu wynebu yma yn Ropeworks. Ar Barc Gwyliau Greenacres rhwng Traethau Black Rock a Pharc Cenedlaethol Eryri, Ropeworks yw atyniad diweddaraf, a mwyaf cyffrous Gogledd Cymru, yn bendant.

Ar gyfer grwpiau a threfniadau ymlaen llaw, ffoniwchs
01766 515316
... neu fel arall, anfonwch e-bost atom yn: info@ropeworks.co.uk
Gwefan - www.ropeworks.co.uk

*
* click for about the clwyds
* click for ride the clwyds news
* click for mountain biking routes
* click for mountain biking facilities
search this site

Cartref | Cysylltwch â ni | Cwestiynau | Bryniau Clwyd | Newyddion
Y Llwybrau | Cyfleusterau
© Cyngor Sir Ddinbych 2003. Ymwadiad
Ebost: info@ridetheclwyds.com